Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2020
Amser:
13.30 -
09.05
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Siân Gwenllian Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Nododd y Rheolwyr Busnes na chafwyd unrhyw gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw, yn rhinwedd ei swydd fel swyddog cyfreithiol.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn egluro'r rhesymau dros beidio â chyflwyno cynnig ar gyfer y ddadl ar adroddiad y pwyllgor ar Fframweithiau Polisi Cyffredin: craffu ar waith y Cynulliad, a drefnwyd ar gyfer y dydd Mercher hwn. Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu siom na chawsant eu hysbysu mewn pryd i drefnu busnes arall yn lle dadl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nid oeddent am weld hyn yn dod yn arferiad ar gyfer y pwyllgorau.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd y siaradwr cyntaf o bob grŵp gwrthblaid yn cael deng munud yn ystod y ddadl ar Gyllideb Ddrafft 2020-21, a bydd gan y siaradwyr dilynol bum munud.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Mewn ymateb i ymholiadau gan Reolwyr Busnes, cytunodd y Trefnydd i ddarparu nodyn yn nodi cyfrifoldebau priodol y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (o ran ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) a Gweinidogion eraill ar ôl gadael yr UE, yn enwedig y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, mewn perthynas â masnach ryngwladol a thrafodaethau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Mawrth 2020 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddethol y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 12 Chwefror:
NNDM7263 Rhun ap Iorwerth
Cyd-gyflwynwyr:
Angela Burns
Janet Finch-Saunders
Llyr Gruffydd
Siân Gwenllian
Neil Hamilton
Mike Hedges
Vikki Howells
Mark Isherwood
Delyth Jewell
Helen Mary Jones
Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig.
2. Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.
3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a
b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.
Cefnogir gan:
Huw Irranca-Davies
Suzy Davies
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a nodi nad oedd gan ofynion statudol mewn perthynas â materion polisi ddarpariaethau Gorchymyn Sefydlog cyfatebol fel rheol.
Dywdeodd y Trefnydd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn fodlon cydymffurfio â phob un o dri argymhelliad y pwyllgor, heb fod angen iddynt gael eu nodi yn y Rheolau Sefydlog:
· Bydd y Gweinidog yn gosod adroddiad ymgynghori i'r fframwaith drafft yn nodi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac yn cynnwys ymateb i argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; amserlen o newidiadau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu gwneud ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac argymhellion y pwyllgor, ac arfarniad cynaliadwyedd integredig wedi'i ddiweddaru.
· Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at gadeiryddion pob pwyllgor unwaith y bydd y fframwaith drafft wedi'i osod.
· Mae'r Gweinidog yn croesawu dadl yn y cyfarfod llawn ar y fframwaith drafft ac yn credu ei fod yn unol â'r dull a ragwelir gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Cynulliad fel y gall y llywodraeth ystyried penderfyniad y Cynulliad ac argymhellion y pwyllgor(au) mewn modd amserol.
Nododd y Trefnydd y byddai'n cadarnhau'r ymateb hwn yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes, fel y gall ymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn unol â'r amgylchiadau hynny.
Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn ymateb priodol a fyddai'n galluogi ysbryd argymhelliad y Pwyllgor Newid Ninsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gael ei gymhwyso.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr ac y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at y Bwrdd Taliadau yn ei hysbysu o fwriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Cefnogodd y Pwyllgor Busnes yr egwyddor o ddarparu lwfansau ychwanegol i Aelodau a etholir yn gadeiryddion dros dro am gyfnod estynedig.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Busnes y Cynulliad yng ngogledd Cymru
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Comisiwn, yr wythnos diwethaf, wedi cytuno mewn egwyddor i ymrwymo adnoddau i gynnal wythnos o fusnes y Cynulliad yng ngogledd Cymru cyn yr haf. Mae staff y Comisiwn a'r Llywodraeth eisoes wedi dechrau edrych ar bosibiliadau. Bydd angen i'r Pwyllgor Busnes wneud penderfyniadau yn y dyfodol agos ar drefn busnes, gan gynnwys amserlennu'r Cyfarfod Llawn a phwyllgorau - y bwriad yw cywasgu busnes wythnos yn dri diwrnod rhwng dydd Llun a dydd Mercher - a bydd papur yn dilyn maes o law.
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn bwriadu cymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ymchwiliad i'r Newid yng Nghyfansoddiad Cymru ddydd Llun 9 Mawrth, ac yr hoffai ddechrau'r cyfarfod yn gynharach (am 11am) .
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd y tu allan i'w slot ar yr amserlen ddydd Llun 9 Mawrth, gan nodi mai grŵp Plaid Cymru ddylai ddatrys y gwrthdaro yn aelodaeth Dai Lloyd â'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad drwy anfon dirprwy.